Gwaith cymdeithasol Caerdydd
Dinas fywiog, arfer amrywiol.

 

Ymunwch â’n tîm cefnogol

Croeso i Waith Cymdeithasol Caerdydd – cartref Tîm Gwaith Cymdeithasol Cyngor Caerdydd.

P’un a ydych newydd gymhwyso ac yn chwilio am eich rôl gyntaf, neu’n weithiwr cymdeithasol profiadol sy’n barod i gymryd y camau nesaf yn eich gyrfa, mae Gwaith Cymdeithasol Caerdydd yn cynnig cyfleoedd i chi.

Rydyn ni’n recriwtio pobl sydd eisiau gwneud gwahaniaeth i ymuno â’n tîm talentog ym mhrifddinas lewyrchus Cymru.

Sylwadau ein gweithwyr cymdeithasol

 

Gweithio i ni

Mae Caerdydd yn brifddinas fywiog ac amrywiol gydag ystod o ofynion a heriau unigryw. Mae Gwaith Cymdeithasol Caerdydd ar flaen y gad o ran datblygu gwasanaethau gofal cymdeithasol arloesol sydd wedi’u cynllunio i gael effaith wirioneddol – yn awr ac yn y dyfodol. Byddwch wrth wraidd y broses i’n helpu i lunio a darparu’r gwasanaethau hyn.

Fel tîm arweiniol, byddwn yn gefn i chi ar bob cam o’r ffordd. Ein nod yw helpu ein gweithlu i leihau llwythi achosion fel y gall gweithwyr cymdeithasol wneud yr hyn maent yn ei wneud orau – gweithio’n uniongyrchol gyda phlant, oedolion a theuluoedd sy’n agored i niwed.

Ein cynnig i chi

Rydym yn cynnig cyflog hael sy’n gystadleuol gydag awdurdodau lleol eraill yn yr ardal. Yn ddiweddar, gwnaethom gyflwyno cyfradd gyflog uwch ar gyfer rhai o’n meysydd gwaith cymdeithasol allweddol o fewn y Gwasanaethau Plant er mwyn gwneud ein cynnig hyd yn oed yn fwy dymunol.

Mae Gwaith Cymdeithasol Caerdydd yn cynnig hyfforddiant a chymorth amrywiol i weithwyr cymdeithasol ar bob lefel, rhai ohonynt yn gwbl unigryw i Gaerdydd.

Mae ein hystod lawn o gyrsiau hyfforddi pwrpasol ac arbenigol oll wedi’u dylunio i wella’ch sgiliau a’ch profiad. Dyma rai o’n prif gyfleoedd datblygu:

  • Rhaglenni atgyfnerthu ar gyfer gweithwyr cymdeithasol newydd gymhwyso (NQSW).
  • Cynllun datblygu personol pwrpasol
  • Cymorth ar gyfer gweithwyr cymdeithasol i oedolion i gyflawni hyfforddiant Gweithiwr Proffesiynol Iechyd Meddwl Cymeradwy – yr unig gwrs o’i fath yng Nghymru,
  • Llwybrau hyfforddiant ôl-raddedig gyda phrifysgolion lleol
  • Talu ffioedd cofrestru – yr unig awdurdod lleol yng Nghymru sy’n gwneud hynny
  • Arwyddion Diogelwch a hyfforddiant ynghylch cyfathrebu cydweithredol

Fel prifddinas mae Caerdydd yn cynnig ystod amrywiol o achosion gan roi profiad cyffrous, heriol a boddhaus …i chi gael dysgu a datblygu fel ymarferydd.

Mae ein diwylliant gweithio yn hyblyg, gyda chynllun oriau hyblyg yn eich galluogi i weithio i amserlen sy’n addas i chi. Yng Nghaerdydd, rydym hefyd yn gweithio’n ystwyth, sy’n golygu y gallwch weithio o lawer o’n ‘pwyntiau cyswllt’ fel y canolfannau cymunedol sy’n ein galluogi i fod yn agosach at y cymunedau rydym yn gweithio gyda nhw. Ond peidiwch â phoeni, bydd gennych ddesg o hyd a byddwch yn teimlo’n rhan o ddiwylliant tîm cryf.

Mae’r Cyngor yn cynnig hawliad gwyliau blynyddol helaeth yn dechrau gyda 27 diwrnod y flwyddyn i uchafswm o 32 diwrnod y flwyddyn ar ôl 5 mlynedd gydag opsiwn i brynu gwyliau blynyddol ychwanegol o hyd at 10 diwrnod.

Bydd gennych fynediad i  Gronfa Bensiwn Caerdydd a Bro Morgannwg sy’n rhan o’r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol (CPLlL), sy’n cynnig cynllun pensiwn diogel a hyblyg, dibynadwy, ar gyfer tawelwch meddwl.

Mae Caerdydd i’w gweld yn aml ar frig y rhestrau o ddinasoedd gorau’r DU i fyw ynddynt.

Mae’r rhain yn cynnwys tocynnau teithio â chymhorthdal, talebau gofal plant, cynlluniau beicio i’r gwaith a rhannu ceir, yn ogystal â llawer mwy o fuddion y Cyngor.

Two women enjoying Bute park
Social worker with a child
Cardiff Bay barrage
 

Ein Timau

Mae gennym amrywiaeth o dimau sy’n arbenigo yng ngwahanol feysydd gwaith cymdeithasol, y mae rhai ohonynt wedi’u lleoli’n ganolog ym Mae Caerdydd gyda mynediad i leoliadau eraill, megis canolfannau cymunedol, ar gyfer gweithio hyblyg ac ystwyth.

Mae gennym hefyd dimau ardal sy’n gweithio mewn tri lleoliad gwahanol ar draws y ddinas ac yng nghanol y gymuned, ssy’n cefnogi pobl yn yr ardaloedd hyn. Mae’r dull gweithredu lleol yn eich galluogi i ymwreiddio yn y gymuned ac yn cynnig mwy o gyfleoedd i weithio o leoliad sy’n addas i chi.

Ein 3 ardal yw’r Gogledd a’r Gorllewin; y Dwyrain a’r De-ddwyrain; a’r Ddinas a’r De/De-orllewin.

 

Byw yng Nghaerdydd

Mae Dinas Caerdydd yn ddewis gwych ar gyfer eich gyrfa gwaith cymdeithasol. Mae’n fywiog ac yn fforddiadwy gydag ansawdd bywyd rhagorol ac enw da ledled y byd. Mae gan y ddinas gymysgedd amrywiol o olygfeydd diwylliannol, cyfleoedd bywyd nos a siopa, lleoliadau chwaraeon o safon ryngwladol a chyfleusterau ac amwynderau o’r radd flaenaf. Mae gennym hefyd fwy o fannau gwyrdd y pen nag unrhyw un o ddinasoedd craidd y DU.

Os ydych am ddianc rhag bywyd y ddinas, dim ond 30 munud o yrru sydd rhyngom ni a Pharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog a phellter byr o lu o draethau hardd a digyfnewid de Cymru.

I gael gwybod mwy am Gaerdydd, ewch i Croeso Caerdydd.

Aerial view of Cardiff
 

Cyswllt

Ar gyfer pob ymholiad cyffredinol neu gais, neu i drefnu trafodaeth anffurfiol ag unrhyw un o’n rheolwyr tîm am y swyddi sydd ar gael i chi, cysylltwch â’n tîm recriwtio.

 

Recriwtiafi@caerdydd.gov.uk

Neu anfonwch neges i ni isod





    Lluniau gan Croeso Cymru.