Datganiad hygyrchedd

Mae’r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i wefan Gwaith Cymdeithasol Caerdydd.

Cynhelir y wefan hon gan Gyngor Caerdydd. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio’r wefan hon.  Er enghraifft, mae hynny’n golygu y dylech allu:

  • newid lliwiau, lefelau cyferbyniad a ffontiau gan ddefnyddio gosodiadau porwr neu ddyfais,
  • chwyddo hyd at 400% heb i’r testun fynd oddi ar y sgrin
  • llywio’r wefan gan ddefnyddio bysellfwrdd neu feddalwedd adnabod lleferydd, a
  • gwrando ar y rhan fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio darllenydd sgrin (gan gynnwys y fersiynau mwyaf diweddar o JAWS, NVDA a VoiceOver)

Rydym hefyd wedi gwneud y testun ar y wefan mor syml â phosibl i’w ddeall.

Mae gan AbilityNet gyngor ar wneud eich dyfais yn haws ei defnyddio os oes gennych anabledd.

Adborth a gwybodaeth gyswllt

Cysylltwch â ni os ydych:

  • yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi’u rhestru ar y dudalen hon,
  • yn credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, neu
  • os oes angen gwybodaeth arnoch am y wefan hon mewn fformat gwahanol

E-bost:  RecruitMe@cardiff.gov.uk

Byddwn yn ystyried eich cais ac yn cysylltu â chi cyn gynted â phosibl.

Gweithdrefn orfodi

Mae’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) yn gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Rhaglenni Symudol) (Rhif 2) 2018 (y ‘rheoliadau hygyrchedd’). Os nad ydych yn fodlon ar sut rydym yn ymateb i’ch cwyn,  cysylltwch â’r Gwasanaeth Cynghori a Chefnogi Cydraddoldeb (EASS).

Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd y wefan hon

Mae Cyngor Caerdydd wedi ymrwymo i wneud ei wefan yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Rhaglenni Symudol) (Rhif 2) 2018.

Statws cydymffurfio

Mae’r wefan hon yn cydymffurfio’n rhannol â Safon AA y Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwe fersiwn 2.2, oherwydd y diffyg cydymffurfio a’r eithriadau a restrir isod.

Cynnwys nad yw’n hygyrc

Nid yw’r cynnwys a restrir isod yn hygyrch am y rhesymau canlynol.

Methu â chydymffurfio â’r rheoliadau hygyrchedd

Cynlluniwyd ein dogfen Strategaeth Heneiddio’n Dda Caerdydd 2022 i 2027 i’w hargraffu ac nid yw’n gwbl hygyrch ar-lein.

  • Mae gan y ddogfen elfennau nad oes ganddynt gyferbyniad lliw digonol. Mae hyn yn methu maen prawf WCAG 1.4.3 Cyferbyniad (Isafswm)
  • Mae gan dablau berthynas anghywir.  Mae hyn yn methu maen prawf WCAG 1.3.1 Gwybodaeth a Pherthnasoedd: Tablau.
  • Mae gan rai delweddau destun amgen ar goll.  Mae hyn yn methu maen prawf WCAG 1.1.1 Cynnwys nad yw’n destun

Rydym yn bwriadu disodli’r ddogfen hon gyda fersiwn hygyrch erbyn 31 Awst 2025.

Beth rydyn ni’n ei wneud i wella hygyrchedd

Rydym yn rhoi cymorth a hyfforddiant i’r rhai sy’n gweinyddu’r wefan, er mwyn sicrhau bod safonau’n cael eu cadw wrth ddiweddaru’r wefan. Byddwn yn adolygu’r wefan o bryd i’w gilydd.

Paratoi’r datganiad hygyrchedd hwn

Paratowyd y datganiad hwn ar 4 Marth 2020.

Fe’i hadolygwyd ddiwethaf ar 15 Awst 2025.

Profwyd y wefan hon ddiwethaf ar 23 Gorffennaf 2025 gan Silktide gyda gwiriadau llaw ychwanegol a gyflawnir gan ein tîm gwefan.

Diweddarwyd y datganiad hwn ddiwethaf ar 19 Awst 2025.