Gwaith Cymdeithasol Oedolion
yng Nghaerdydd
Dinas fywiog, arfer amrywiol.

 

Ynglŷn â Gwasanaethau Cymdeithasol Oedolion yng Nghaerdydd

Mae Gwasanaethau Cymdeithasol Oedolion Caerdydd yn rhoi cymorth i dros 4,500 o ddinasyddion i sicrhau eu bod yn derbyn y cymorth sydd ei angen arnynt i fyw bywydau diogel, annibynnol a chyflawn.

Rydym yn gweithio gyda phobl i sicrhau eu bod yn parhau wrth wraidd y gwaith o gynllunio eu gofal a’u cymorth i’w helpu i wneud penderfyniadau am eu hanghenion eu hunain yn y dyfodol.

Mae hyn yn cynnwys mynediad i:

  • ganolfannau dydd,
  • gweithgareddau cymdeithasol,
  • gwasanaethau gofal yn y cartref,
  • cynllunio wrth gefn, a
  • chynllunio llety.

Cyflwyniad i waith Cymdeithasol yng Nghaerdydd

Mae gennym dimau o Weithwyr Cymdeithasol a Chynorthwywyr Gwaith Cymdeithasol sy’n gweithio ar draws 3 phrif wasanaeth:

  • Gwasanaethau Cymunedol Oedolion (yn cynnwys timau Anableddau Corfforol a Phobl Hŷn)
  • Gwasanaethau Cymorth Arbenigol ac Iechyd Meddwl
  • Timau Anableddau Dysgu

Caiff ein timau Gwaith Cymdeithasol eu cefnogi gan dimau Cymorth Busnes sy’n galluogi Gweithwyr Cymdeithasol i ganolbwyntio ar eu llwythi achos.

Rydym am i Gaerdydd fod y lle gorau yng Nghymru i weithio ym maes Gofal Cymdeithasol Oedolion ac yn fan lle mae pawb wedi’u grymuso i gyflawni eu potensial llawn, eu hyfforddi i ddarparu gwasanaethau rhagorol a’u cefnogi i gael rolau boddhaus a gwerth chweil.

Er mwyn cyflawni hyn, rydym wedi nodi 10 ymrwymiad. Byddwn yn:

  1. Deall ein gweithlu a’r heriau sy’n ein hwynebu wrth recriwtio a chadw staff.
  2. Hyrwyddo amrywiaeth a sicrhau bod ein gweithlu yn cynrychioli ein cymuned.
  3. Gwerthfawrogi ein staff, gan adolygu cyflogau staff yn genedlaethol a sicrhau, lle bynnag y bo’n bosibl, fod ein cyfraddau cyflog yn deg ac yn gystadleuol.
  4. Cyflwyno rhaglen sefydlu a hyfforddi gynhwysfawr sy’n bodloni anghenion ein holl staff.
  5. Rhoi’r cymorth sydd ei angen ar ein staff i gyflawni eu rolau, gan leihau biwrocratiaeth lle bynnag y bo modd a hyrwyddo lles.
  6. Grymuso ein staff trwy Ddull Asesydd Dibynadwy, gyda hyfforddiant llawn, cymorth a goruchwyliaeth barhaus.
  7. Sefydlu llwybrau gyrfa clir, gan greu ein gweithwyr cymdeithasol, ein therapyddion galwedigaethol a’n gweithwyr gofal a chymorth ein hunain – gan eu cefnogi i fod yn gymwys ac i symud ymlaen yn eu gyrfaoedd.
  8. Sicrhau bod strwythurau rheoli clir ar waith i gefnogi lles staff ac i ganiatáu ar gyfer dilyniant a datblygiad gyrfaol.
  9. Cydnabod pwysigrwydd ein staff cymorth a sicrhau prosesau recriwtio a chadw effeithiol yn y rolau hyn.
  10. Gwella ein prosesau recriwtio a hyrwyddo ymwybyddiaeth o fanteision gweithio yng Nghaerdydd.

Y Gwasanaethau

Mae’r Gweithwyr Cymdeithasol hyn wedi’u lleoli mewn ysbytai neu yn y gymuned i gefnogi unrhyw un dros 18 oed sydd ag angen gofal a chymorth. Mae’r tîm yn cynnig gwasanaethau o’r tro cyntaf y mae angen cymorth ar unigolyn neu deulu a thrwy gydol ei daith gyda ni.

Caiff ein Gweithwyr Cymdeithasol eu cefnogi gan dîm amlddisgyblaethol ehangach i ddod o hyd i’r atebion gorau i helpu pobl. Gall y tîm gynnwys:

  • Timau Therapi Galwedigaethol yn y Gymuned ac mewn Ysbytai,
  • Cynorthwywyr Gwaith Cymdeithasol,
  • Timau Adnoddau Cymunedol,
  • Gwasanaethau Lles,
  • Canolfannau Dydd, a
  • chydweithwyr iechyd.

Mae gennym berthnasau cytundebol gydag ystod eang o ddarparwyr gofal cartref a chartrefi gofal preswyl yng Nghaerdydd, gan gynnig amrywiaeth o opsiynau i fodloni anghenion unigolyn.
O fewn y Gwasanaethau Cymunedol Oedolion, mae 3 thîm craidd sy’n sicrhau bod pobl yn cael cymorth yn y lle iawn ar yr adeg iawn.

Adult and Community Services Teams:

  • Tîm Rheoli Achosion – ar gyfer unigolion ag anghenion cymhleth.
  • Tîm Gwaith Cymdeithasol Pwynt Cyswllt Cyntaf neu Asesu Oedolion – sy’n cynnwys Gweithwyr Cymdeithasol yn y Gymuned neu mewn Ysbytai sy’n cynnal asesiadau gydag unigolion i nodi anghenion gofal a chymorth.
  • Tîm Adolygu – sy’n rhoi cymorth i unigolion drwy gynnal adolygiadau ac asesiadau i sicrhau bod eu gofal a’u cymorth yn parhau’n addas.

Mae ein Gwasanaethau Cymorth Arbenigol ac Iechyd Meddwl yn cefnogi amrywiaeth o unigolion, gan gynnwys pobl sy’n profi:

  • anawsterau iechyd meddwl,
  • problemau camddefnyddio cyffuriau ac alcohol, a
  • digartrefedd.

Mae’r timau’n gweithio gyda phartneriaid gan gynnwys Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro (BIPCaF) a sefydliadau yn y trydydd sector i ddarparu gwasanaethau i unigolion a theuluoedd i’w helpu gyda’r heriau sy’n eu hwynebu a rhoi cymorth parhaus.

Mae’r timau’n gweithio’n agos gyda chydweithwyr yn y meysydd Diogelu Oedolion a Thai ac yn BIPCaF.

Gwasanaethau Cymorth Arbenigol ac Iechyd Meddwl:

Timau Iechyd Meddwl Cymunedol (TIMCau)

Mae 5 TIMC yng Nghaerdydd yn darparu ymyriadau amlddisgyblaethol mewn partneriaeth â BIPCaF i gefnogi pobl sy’n byw gydag anawsterau iechyd meddwl ledled y ddinas.

Gwasanaethau Iechyd Meddwl i Bobl Hŷn (GIMBH)

Rhan o’r tîm amlddisgyblaethol dan y trefniadau partneriaeth rhanbarthol gyda BIPCaF i roi cymorth i ddinasyddion a theuluoedd sy’n byw gyda chyflyrau iechyd meddwl sy’n gysylltiedig ag oedran.

Tîm Dyletswydd Argyfwng

Mae hwn yn drefniant partneriaeth rhanbarthol gyda Chyngor Bro Morgannwg, sy’n cael ei gynnal a’i reoli gan Gyngor Caerdydd, i gynnig ymateb gwasanaethau cymdeithasol tu-allan-i-oriau i bob dinesydd ar draws y ddwy ardal awdurdod lleol gan gydweithio ag asiantaethau partner a gwasanaethau argyfwng eraill.

Tîm Trefniadau Diogelu rhag Colli Rhyddid (TDCRh)

Trefniant partneriaeth gyda BIPCaF a Chyngor Bro Morgannwg i sicrhau bod y mesurau diogelu cyfreithiol priodol ar waith ar gyfer hawliau dinasyddion nad ydynt yn gallu cydsynio i’w gofal a’u triniaeth.

Tîm Fforensig

Tîm arbenigol annibynnol sy’n rhoi cymorth, mewn partneriaeth â BIPCaF, i unigolion sy’n destun cyfyngiadau’r Weinyddiaeth Gyfiawnder (GG) ac sydd ag anawsterau iechyd meddwl hefyd.

Y Tîm Niwroseiciatreg

Dyma wasanaeth adsefydlu arbenigol Cymru gyfan a reolir gan BIPCaF ar gyfer oedolion sydd ag anafiadau caffaeledig i’r ymennydd ac anawsterau iechyd meddwl cysylltiedig. Mae’n cynnig mewnbwn gweithwyr cymdeithasol arbenigol i ddinasyddion Caerdydd sy’n agored i’r gwasanaeth hwn.

Tîm Alcohol a Chyffuriau Caerdydd, Tîm Gwaith Cymdeithasol Canol y Ddinas, Gwasanaeth Pontio a Thîm Niwroamrywiol

Dyma ystod o wasanaethau arbenigol i ddinasyddion Caerdydd sy’n profi anawsterau gan gynnwys problemau camddefnyddio sylweddau, digartrefedd a phobl ifanc sydd ag anghenion gofal a chymorth sy’n gadael gofal. Mae’r timau hyn yn gweithio gydag amrywiaeth o bartneriaid gan gynnwys BIPCaF, sefydliadau yn y trydydd sector a gwasanaethau Tai.

Gwasanaeth Dydd Tŷ Canna

Tîm arbenigol annibynnol sy’n cynnig ystod o gymorth gan gynnwys mewnbwn un-i-un, gweithgareddau grŵp, hyfforddiant galwedigaethol, cwnsela a chymorth cyfoedion i bobl sy’n profi anawsterau iechyd meddwl ac sy’n agored i wasanaethau iechyd meddwl eilaidd.

Mae 2 Dîm Anableddau Dysgu sy’n cynnig cyngor gwaith cymdeithasol, gwybodaeth a gwasanaethau cymorth i oedolion sydd ag Anableddau Dysgu a’u gofalwyr. Maent yn gweithio’n agos gyda thimau amlddisgyblaethol ehangach i gefnogi anghenion cymhleth parhaus.

Gan fod Caerdydd yn ddinas gryno gyda chysylltiadau trafnidiaeth da, mae gennym ystod eang o gyfleoedd i gefnogi oedolion sydd ag anableddau dysgu.  Mae ein dull gweithredu yn sicrhau ein bod yn canolbwyntio ar gefnogi pobl i gael mynediad at weithgareddau lleol ac i integreiddio i’w cymunedau.  Rydym yn gweithio’n agos gyda’n tîm iechyd anableddau dysgu ac asiantaethau eraill i sicrhau ein bod yn bodloni anghenion pobl.

Mae cyfleoedd i’n staff weithio gyda phobl ag ystod eang o anghenion ac arbenigo mewn maes sydd o ddiddordeb, fel pontio neu ddiagnosis deuol (mae gennym nifer o aelodau o staff sydd wedi dewis hyfforddi fel Gweithwyr Proffesiynol Iechyd Meddwl Cymeradwy), os ydynt yn dymuno. Mae llawer o aelodau o staff sy’n ymuno â ni dros dro yn dewis aros a dilyn gyrfa yng Nghaerdydd.  Mae hyn oherwydd y cyfleoedd i fod yn greadigol, ein gwasanaethau lleol sydd o ansawdd uchel, dull gweithredu cefnogol a chyfeillgar ein timau a’n brwdfrydedd dros hyrwyddo hawliau a lles unigolion.

Mae ein staff yn gweithio gyda phobl i ddeall ac asesu eu hanghenion a’u canlyniadau fel y gallwn ddatblygu opsiynau sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn.

Mae ein tîm o Gynllunwyr Cymorth yn gweithio’n agos gydag unigolion sydd ag anghenion cyfleoedd dydd. Maent yn eu helpu i nodi amrywiaeth o gyfleoedd meithrin sgiliau a chyfleoedd eraill, gan gynnwys:

  • grwpiau prif ffrwd,
  • cyfleoedd gwirfoddoli,
  • addysg i oedolion,
  • astudiaethau galwedigaethol, a
  • gwasanaethau dydd mwy arbenigol.

Mae hyn yn arwain at becynnau pwrpasol a rhwydweithiau gwell i unigolion. Mae gan y tîm fynediad i dros 80 o gyfleoedd lleol ac mae’r nifer hwn yn cynyddu.

Mae’r Cyngor wedi datblygu gwasanaeth dydd anghenion cymhleth i’r unigolion hynny sydd ag anghenion iechyd neu ymddygiad hynod gymhleth. Mae’r gwasanaeth yn un cymunedol ac yn canolbwyntio ar ddatblygu sgiliau a sicrhau’r ymarfer lleiaf cyfyngol. Rydym wedi datblygu’r gwasanaeth hwn ymhellach ar gyfer pobl ifanc sy’n pontio ac rydym yn gweithio ochr yn ochr â chydweithwyr addysg i ddatblygu ein cyrsiau addysg bellach lleol.

Rydym yn cynnig seibiant dros nos trwy wasanaethau gyda dwy elusen leol ac rydym yn cynllunio tŷ seibiant pwrpasol newydd i gynnig mwy o ddewis i’r bobl rydym yn eu cefnogi.

Mae cefnogi pobl i aros yn lleol, gan fyw yn agos at eu teuluoedd a’u rhwydweithiau a chyda’u tenantiaeth eu hunain yn bwysig iawn i ni. Mae hyn wedi arwain at ddatblygu 112 o gynlluniau lleol gan gynnwys amrywiaeth o dai a fflatiau gyda chefnogaeth ar y safle. O fewn ein gwasanaeth, mae gennym dîm byw â chymorth sy’n goruchwylio ac yn monitro ein contractau byw â chymorth. Mae’r tîm hefyd yn rheoli eiddo gwag a symudiadau gan sicrhau y gall gweithwyr cymdeithasol ganolbwyntio ar gefnogi’r unigolion wrth symud. Mae’r rhan fwyaf o’r cynlluniau yn cael eu rhedeg gan elusennau yn y trydydd sector. Rydym hefyd yn gweithio’n agos gyda darparwr lleoliadau oedolion a darparwyr gofal preswyl arbenigol yn ôl yr angen.

Rydym wedi cydgynhyrchu strategaeth gomisiynu gyda phobl leol i gytuno ar gyfeiriad y gwaith o ddatblygu gwasanaethau ac rydym yn ystyried sut y gallwn adeiladu ar gydgynhyrchu wrth symud ymlaen.

 

Sylwadau ein gweithwyr cymdeithasol

“Mae ein tîm yn frwd dros weithio gyda phobl sy’n byw gyda dementia. Mae cyflawni bywydau mwy ystyrlon a chyflawn i bobl sy’n byw mewn cartrefi gofal yn rhyfeddol o werth chweil. Drwy weithio gyda phobl o’r un anian a chyda chymorth y sefydliad gallwn gyflawni canlyniadau anhygoel.”

Rheolwr Tîm, Tîm Ansawdd Gofal a Dementia

“Rwy’n mwynhau helpu ein defnyddwyr gwasanaeth i adennill eu hannibyniaeth yn eu cartrefi eu hunain a  helpu ein defnyddwyr gwasanaeth i gael y gofal gorau yn seiliedig ar eu hanghenion trwy ryngweithio â Therapyddion Galwedigaethol, Ffisiotherapyddion a Nyrsys Ardal.”

Cydlynydd Gofal Cartref, Tîm Adnoddau Cymunedol

“Rwy’n mwynhau cefnogi dinasyddion Caerdydd i’w hail-alluogi i adennill eu hannibyniaeth yn dilyn cyfnod yn yr ysbyty neu gyfnod o salwch. Mae gweld y cynnydd y mae’r dinasyddion yn ei wneud yn gwneud i fi deimlo’n fodlon iawn.”

Rheolwr Gofal Cartref, Tîm Adnoddau Cymunedol

“Mae gwaith cymdeithasol yn werth chweil ac yn heriol. Mae cymaint i’w ddysgu bob amser. Mae’n cynnwys symud pobl ymlaen a gwella eu bywydau. ”

Uwch Weithiwr Cymdeithasol, Tîm Iechyd Meddwl Cymunedol

“Rwy’n mwynhau gweithio ym maes Gwaith Cymdeithasol gan fy mod yn gallu gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl. Rwy’n aml yn cael gweithio gyda theuluoedd sydd mewn argyfwng ac mae’n fraint cael fy ngadael i mewn i’w cartrefi i geisio datrys y problemau y maent yn eu hwynebu. Rwy’n gweithio gyda’r teuluoedd i ddatblygu nod cyffredin ac yn ceisio eu helpu i gyflawni hyn. Rydw i hefyd yn hoffi gweithio yng Nghaerdydd gan fod yr Awdurdod Lleol yn rhoi pwys mawr ar weithio ar sail cryfderau ac rwy’n cael cefnogi teuluoedd trwy hyrwyddo ac adeiladu ar eu cryfderau. ”

Gweithiwr Cymdeithasol, Tîm Asesu Oedolion

Ein dull o ymdrin â Gwaith Cymdeithasol yng Nghyngor Caerdydd

Senior Woman In Garden Talking With Female Carer
Senior couple performing yoga exercise at home
Senior couple holding a dog in a retirement home

Yng Nghaerdydd, mae ymarfer sy’n seiliedig ar gryfderau Gweithwyr Cymdeithasol yn gyfannol ac yn amlddisgyblaethol. Mae’n berthnasol i unrhyw ymyriad a gellir ei gymhwyso gan unrhyw broffesiwn. Gall Gweithwyr Cymdeithasol weithio gyda gweithwyr gofal cymdeithasol proffesiynol amrywiol, gweithwyr iechyd proffesiynol a rhwydwaith cymorth yr unigolyn ei hun i roi’r cyngor a’r arweiniad cywir fel y gall unigolion gadw neu adennill eu hannibyniaeth a’u gwydnwch.

Mae ein dull yn annog unigolion i nodi beth sydd wedi gweithio iddynt yn y gorffennol, beth sydd ddim yn gweithio, a beth allai weithio yn eu sefyllfa bresennol. Rydym yn deall mai unigolion fydd yn y sefyllfa orau i nodi rhwystrau sy’n eu hatal rhag symud ymlaen. Mae gweithwyr cymdeithasol yn cefnogi unigolion i ystyried sut y gellir (os yn bosibl) oresgyn y rhwystrau hyn. Mae’r Gweithiwr Cymdeithasol yn hwyluso’r sgwrs hon, a chydnabyddir bod unigolion, gofalwyr a’u teuluoedd yn ymgysylltu’n fwy ag unrhyw broses y maen nhw’n teimlo’n rhan bwysig ohoni.

Rydym yn deall bod unigolion nad ydynt yn gallu mynegi eu hunain na chyfathrebu’n glir. Er enghraifft, gall yr unigolyn fod wedi’i orlethu gan ei amgylchiadau, meddu ar namau synhwyraidd, bod angen mwy o fewnwelediad i’w heriau, wedi’i asesu fel unigolyn nad oes ganddo’r galluedd meddyliol i wneud penderfyniadau, neu fod â heriau gwybyddol sy’n rhwystr i’w ddealltwriaeth. Gall ein dull sy’n seiliedig ar gryfderau gynnwys eraill sydd â gwybodaeth am yr hyn sy’n bwysig i’r unigolyn. Mae Gweithwyr Cymdeithasol hefyd yn cymryd y camau angenrheidiol i oresgyn cymaint o rwystrau â phosibl i alluogi’r unigolyn i gymryd rhan (e.e. dehonglwyr Iaith Arwyddion Prydain). Mae Gweithwyr Cymdeithasol hefyd yn sicrhau bod yr holl ddulliau angenrheidiol (h.y. eiriolwyr annibynnol, galluedd meddyliol, amseroedd neu leoliadau penodol, cymhorthion cyfathrebu, ac ati) yn cael eu defnyddio i sicrhau bod yr unigolyn yn cyfranogi cymaint â phosibl yn y broses ac i sicrhau ei fod yn gallu cymryd rhan mewn sgyrsiau cymaint â phosibl.

Mae ein dull wedi’i ategu gan nifer o strategaethau allweddol y Cyngor. Darllenwch y strategaethau i gael mwy o fanylion am ein nodau a’n hymrwymiadau:

Ein Hymrwymiad i’n Gweithwyr Cymdeithasol

Mae Gwasanaethau Oedolion Caerdydd wedi ymrwymo i feithrin sgiliau, gallu a gwydnwch Gweithwyr Cymdeithasol i gael sgyrsiau agored a gonest sy’n seiliedig ar gryfderau gydag unigolion, teuluoedd a chymunedau. Caiff yr ymrwymiad hwn ei gefnogi gan y Tîm Hyfforddi a Datblygu Gofal Cymdeithasol ac mae’n hyrwyddo dysgu unigol parhaus a’r broses sicrwydd ansawdd i ymwreiddio dysgu

 

Gweithio i ni

 

Social work staff at a recruitment event

Mae Caerdydd yn brifddinas fywiog ac amrywiol gydag ystod o ofynion a heriau unigryw. Mae Gwaith Cymdeithasol Caerdydd ar flaen y gad o ran datblygu gwasanaethau gofal cymdeithasol arloesol sydd wedi’u cynllunio i gael effaith wirioneddol – yn awr ac yn y dyfodol. Byddwch wrth wraidd y broses i’n helpu i lunio a darparu’r gwasanaethau hyn.

Fel tîm arweiniol, byddwn yn gefn i chi ar bob cam o’r ffordd. Ein nod yw helpu ein gweithlu i leihau llwythi achosion fel y gall gweithwyr cymdeithasol wneud yr hyn maent yn ei wneud orau – gweithio’n uniongyrchol gyda phlant, oedolion a theuluoedd sy’n agored i niwed.

Ein cynnig i chi

Rydym yn cynnig cyflog hael sy’n gystadleuol gydag awdurdodau lleol eraill yn yr ardal. Yn ddiweddar, gwnaethom gyflwyno cyfradd gyflog uwch ar gyfer rhai o’n meysydd gwaith cymdeithasol allweddol o fewn y Gwasanaethau Oedolion er mwyn gwneud ein cynnig hyd yn oed yn fwy dymunol.

Mae gennym swyddogion hyfforddi ymroddedig sydd wedi ymrwymo i gefnogi datblygiad parhaus yr holl staff i gyflawni eu potensial llawn. Rydym am i staff deimlo eu bod wedi’u grymuso gyda’r sgiliau, y wybodaeth a’r hyder angenrheidiol i roi’r gofal a’r cymorth gorau posibl i’n dinasyddion.

Rydym yn cydnabod yr angen am gyfleoedd dysgu a datblygu hyblyg. Rydym yn cynnig dull dysgu cyfunol sy’n cynnwys:

Porth Dysgu

Profiad datblygu proffesiynol hunan-dywysedig gan gynnwys gwybodaeth, offer ymarfer, diweddariadau deddfwriaeth, polisi a gweithdrefnol, a chyfeiriadau at fwy o adnoddau.

Dysgu Wrth Fynd

Podlediadau a sgyrsiau ar eich ffôn.

Dysgu amser cinio

Sesiynau gwybodaeth a sgyrsiau byr, gweminarau, mapio, a chyfleoedd holi ac ateb.

Porth E-Ddysgu Corfforaethol

Mynediad i’r holl staff at ystod eang o gyrsiau a chyfleoedd i gwblhau hyfforddiant ar eu cyflymder eu hun.

Datblygiad yn yr ystafell ddosbarth

Dysgu mewn amgylchedd ystafell ddosbarth ffurfiol a all gynnwys dull cyfunol i hyrwyddo dysgu hunan-dywysedig i wella’r profiad hwn.  Mae hyn hefyd yn cael ei ddefnyddio ar gyfer unrhyw hyfforddiant codi a chario.

Caiff hyfforddiant ei gynnig i’r holl staff gofal cymdeithasol sy’n gweithio gyda’r Cyngor gan gynnwys staff parhaol, staff dros dro, myfyrwyr gwaith cymdeithasol a’n partneriaid gofal cymdeithasol.

Cymorth Dysgu i Fyfyrwyr Gwaith Cymdeithasol

Mae cyfleoedd dysgu rhagorol i’n myfyrwyr Gwaith Cymdeithasol mewn amrywiaeth o leoliadau gan gynnwys lleoliadau yn ein timau Gwaith Cymdeithasol ac mewn sefydliadau partner yn y trydydd sector. Rydym yn cydweithio â’r prifysgolion i gynnig model cadarn o asesu ac yn sicrhau ansawdd y cyfleoedd dysgu i sicrhau eu bod yn bodloni’r safonau a osodir gan Gofal Cymdeithasol Cymru. Rydym hefyd yn gyfrifol am gefnogi ein myfyrwyr gwaith cymdeithasol drwy gydol pob lleoliad.

Ar ôl i chi gymhwyso, rydym yn cynnig rhaglen 3 Blynedd Gyntaf o Ymarfer wedi’i theilwra’n unigryw yn ogystal â mentora a chymorth parhaus. Mae’r berthynas waith gref a chydlynol yr ydym wedi’i meithrin gyda chydweithwyr yn y Prifysgolion, sefydliadau yn y trydydd sector ac o fewn timau Gwaith Cymdeithasol yr Awdurdod Lleol yn ein galluogi i gynnig rhaglen gynhwysfawr sydd nid yn unig yn eich cefnogi drwy eich tair blynedd gyntaf o ymarfer ond sydd hefyd yn rhoi’r wybodaeth, y sgiliau, yr offer ymarfer a’r hyder angenrheidiol i chi i symud ymlaen i gam nesaf eich gyrfa gwaith cymdeithasol.

Cyfleoedd Mentora i Staff Newydd Gymhwyso

Rydym yn cynnig mentora a chymorth parhaus wrth i chi symud ymlaen trwy’ch gyrfa. Mae hyn yn cynnwys rhaglen Blwyddyn Gyntaf o Ymarfer arbenigol gyda phecyn hyfforddi pwrpasol.

I’r rheiny sy’n mwynhau gweld pobl yn datblygu ac yn tyfu ac sydd â diddordeb yn eu datblygiad proffesiynol parhaus eu hunain, mae cyfle i ddod yn fentor. Fel mentor, byddech yn cefnogi Gweithwyr Cymdeithasol Newydd Gymhwyso (GCNG) neu’n ymgymryd â’r Wobr Galluogi Dysgu Proffesiynol (GDP).

Bydd mentor yn cefnogi GCNG drwy’r rhaglen Tair Blynedd Gyntaf o Ymarfer ac yn eu mentora wrth iddynt ddechrau eu gyrfa broffesiynol ym maes Gwaith Cymdeithasol.

Bydd y Wobr GDP yn galluogi myfyrwyr ôl-gymhwyso i ennill gwybodaeth a sgiliau i oruchwylio ac asesu ymarfer gwaith cymdeithasol ar lefelau cymhwyso neu ôl-gymhwyso. Ar ôl cwblhau’r wobr yn llwyddiannus, bydd cyfranogwyr yn ennill cymhwyster cydnabyddedig a fydd yn eu galluogi i gofrestru fel addysgwr ymarfer (AY) gyda Gofal Cymdeithasol Cymru a chefnogi myfyrwyr trwy eu lleoliadau.

Fel prifddinas mae Caerdydd yn cynnig ystod amrywiol o achosion gan roi profiad cyffrous, heriol a boddhaus i chi gael dysgu a datblygu fel ymarferydd.

Mae ein diwylliant gweithio yn hyblyg, gyda chynllun oriau hyblyg yn eich galluogi i weithio i amserlen sy’n addas i chi. Yng Nghaerdydd, rydym hefyd yn gweithio’n ystwyth, sy’n golygu y gallwch weithio o lawer o’n ‘pwyntiau cyswllt’ fel y canolfannau cymunedol sy’n ein galluogi i fod yn agosach at y cymunedau rydym yn gweithio gyda nhw. Ond peidiwch â phoeni, bydd gennych ddesg o hyd a byddwch yn teimlo’n rhan o ddiwylliant tîm cryf.

Mae’r Cyngor yn cynnig hawliad gwyliau blynyddol helaeth yn dechrau gyda 27 diwrnod y flwyddyn i uchafswm o 32 diwrnod y flwyddyn ar ôl 5 mlynedd gydag opsiwn i brynu gwyliau blynyddol ychwanegol o hyd at 10 diwrnod.

Bydd gennych fynediad i  Gronfa Bensiwn Caerdydd a Bro Morgannwg sy’n rhan o’r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol (CPLlL), sy’n cynnig cynllun pensiwn diogel a hyblyg, dibynadwy, ar gyfer tawelwch meddwl.

Mae Caerdydd i’w gweld yn aml ar frig y rhestrau o ddinasoedd gorau’r DU i fyw ynddynt.

Mae’r rhain yn cynnwys tocynnau teithio â chymhorthdal, talebau gofal plant, cynlluniau beicio i’r gwaith a rhannu ceir, yn ogystal â llawer mwy o fuddion y Cyngor.

Ap MyAdvantages

Bydd MyAdvantages yn cynnig eich holl fuddion Cyngor Caerdydd mewn un lle. Gallwch gael gostyngiadau i’ch helpu i arbed ar hanfodion bob dydd gyda channoedd o fanwerthwyr y stryd fawr, gan gynnwys archfarchnadoedd, siopau’r stryd fawr, a sinemâu.

Mae’r gostyngiadau’n cynnwys:

  • 3% yn Asda a Tesco
  • 3.5% yn Sainsburys
  • 5.5% yn Marks & Spencer a B&M
  • 7.5% yn Costa, Greggs a Pizza Express
  • 7% yn Primark
  • 20% yn Body Shop
  • 4.5% yn Air B&B
  • 15% yn Legoland Windsor
  • 6.5% yn yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol

Gallwch hefyd gael bargeinion arbennig ar Ddydd Gwener Du a thrwy gydol y flwyddyn.

Byw yng Nghaerdydd

Cardiff food and drink festival
Cardiff Bay and city centre
Runner at Roath park lake

Mae Caerdydd yn lle gwych i fyw ynddo.  Mae gan y ddinas gymysgedd fywiog o olygfeydd, lleoliadau chwaraeon a cherddoriaeth o’r radd flaenaf, bywyd nos ac amwynderau, gan gynnwys stadiymau mawr a lleoliadau byd-enwog bach.

Mae Caerdydd yn gartref i siopau gwych gan gynnwys sawl arcêd hanesyddol gyda manwerthwyr annibynnol, bwytai a siopau coffi.

Mae’r ddinas yn gartref i nifer o leoliadau cerddoriaeth a theatr. Gyda mynediad i nifer o amgueddfeydd a’r castell, mae cymaint i’w weld a’i wneud.

I ddysgu mwy am yr hyn sy’n digwydd yn y ddinas ewch i wefan Croeso Caerdydd.

 

Cyswllt

Ar gyfer pob ymholiad cyffredinol neu gais, neu i drefnu trafodaeth anffurfiol ag unrhyw un o’n rheolwyr tîm am y swyddi sydd ar gael i chi, cysylltwch â’n tîm recriwtio.

Recriwtiafi@caerdydd.gov.uk

Neu anfonwch neges i ni isod





    Images supplied by Visit Wales.