Hygyrchedd…

Beth rydyn ni’n ei wneud

 

Cymraeg Clir

Rydym yn ceisio ysgrifennu Cymraeg clir ac osgoi defnyddio jargon lle y bo’n bosibl. Os nad ydych yn deall rhywbeth, rhowch wybod i ni.

 

Strwythur Penawdau

Mae’r wefan yn defnyddio strwythur penawdau syml a ddylai ei wneud yn haws i’w chwilio, yn enwedig i bobl sy’n defnyddio darllenwyr sgrîn.

 

Safonau rhyngrwyd

Rydym yn gwneud ein gorau glas i gydymffurfio â safonau codau (e.e CSS a HTML) a chanllawiau W3C WAI

 

Neidio i’r cynnwys

Rydym wedi cynnwys dolen ‘neidio i’r cynnwys’ ar frig pob tudalen sy’n osgoi’r ddewislen llywio ac sy’n symud yn uniongyrchol i’r cynnwys i’r rhai sy’n defnyddio technoleg darllen sgrîn.

 

Yr hyn rydym ni’n ei wneud

Dogfennau

Ein nod yw sicrhau bod ein dogfennau mor hygyrch â phosibl. Nid yw hyn bob amser yn bosibl dan rai amgylchiadau. Os oes angen dogfen arnoch mewn fformat gwahanol, cysylltwch â ni, a gwnawn ein gorau i fodloni’ch gofynion.

 

Beth allwch chi newid?

 

Maint y Testun

 

Os yw maint gwreiddiol y ffont yn rhy fach neu’n rhy fawr ar eich cyfer, gellwch ei newid trwy ddefnyddio’r newidydd maint ffont o fewn eich porwr.

I newid maint y tesun gan ddefnyddio eich porwr:

  • Wrth ddefnyddio Internet Explorer Windows (gan gynnwys Pocket IE), defnyddiwch y ddewislen View – Text Size.
  • Os ydych yn defnyddio Firefox neu borwr gwe arall gan Mozilla, defnyddiwch y ddewislen View – Text Size;
  • Wrth ddefnyddio Safari, defnyddiwch yr opsiwn View – Make Text Bigger;
  • Yn Opera, defnyddiwch View – Style – User Mode;
  • Ac ar gyfer Internet Explorer Macintosh, a Netscape 6 a 7, defnyddiwch y ddewislen View – Text Zoom;

 

Os ydych yn defnyddio llygoden ag olwyn arni, efallai y byddwch yn gallu newid maint y testun trwy bwyso’r fysell Control neu Command a throi’r olwyn ar eich llygoden. O fewn rhai porwyr gellwch newid maint y testun trwy ddefnyddio’r bysellau Control neu Command a phwyso + neu –.

Gallwch hefyd nodi steil  a lliw’r ffont a lliwiau’r tu blaen a chefndirol. Mae’r dull o wneud hyn yn amrywio o borwr i borwr.

  • Wrth ddefnyddio Internet Explorer Windows (gan gynnwys Pocket IE), defnyddiwch y ddewislen Tools – Internet Options.
  • Os ydych yn defnyddio Firefox neu borwr gwe arall gan Mozilla, defnyddiwch y ddewislen Tools – Options;
  • Wrth ddefnyddio Safari, defnyddiwch yr opsiwn View – Make Text Bigger;
  • Yn Opera, defnyddiwch y ddewislen View – Zoom;
  • Ac ar gyfer Internet Explorer Macintosh, a Netscape 6 a 7, defnyddiwch y ddewislen View – Text Zoom;

 

Meddalwedd Adnabod Llais Dragon

Gall Meddalwedd Adnabod Llais Naturiol Dragon gysylltu’r 200 elfen gyntaf ar dudalen. Fodd bynnag, mae wedi’i rhagosod i’r 50 elfen gyntaf yn unig. Os ydych yn cael anhawster mynd i dudalennau sydd â mwy na 50 o ddolenni, gallwch ddefnyddio’r gorchmynion llafar canlynol:

“Move down one line” – ar ôl hynny byddwch yn ceisio dweud y gorchymyn ‘Link’ unwaith eto. Ailadroddwch hyn nes bod mwy o ddolenni wedi’u tagio.
“Page down” – ar ôl hynny byddwch yn ceisio dweud y gorchymyn ‘Link’.

“Press tab” – mae hyn yn ddull arall o ganolbwyntio ar ddolenni ar dudalen, yn debyg i ddefnyddwyr sy’n defnyddio bysellfwrdd yn unig.

Gellir tagio elfennau hefyd drwy ddweud y gorchymyn “Image” a “Button”, yn dibynnu ar ba elfen sy’n bresennol.

 

Dogfennau 

Mae’r rhan fwyaf o’r dogfennau sydd ar gael i’w lawrlwytho ar ein gwefan ar ffurf PDF. I weld dogfen PDF, bydd angen Adobe Acrobat Reader arnoch sydd ar gael i’w lawrlwytho am ddim . I gael gwybodaeth am fynediad i ffeiliau PDF os oes gennych anabledd, ewch i dudalen mynediad Adobe.​​

Er mwyn gweld dogfennau Microsoft Office, bydd angen i chi gael darllenydd Office wedi’i osod ar eich dyfais.

Gallwch lawrlwytho’r darllenwyr o Microsoft.